Zechariah 3

Gweledigaeth 4 – Yr Archoffeiriad

1Yna dangosodd i mi Jehoshwa yr archoffeiriad yn sefyll o flaen angel yr Arglwydd, ac roedd Satan ar yr ochr dde iddo yn ei gyhuddo. 2Ond dyma'r Arglwydd yn dweud, “Dw i'n dy geryddu di Satan! Dw i, yr Arglwydd, sydd wedi dewis Jerwsalem, yn dy geryddu di! Mae'r dyn yma fel darn o bren sydd wedi ei gipio allan o'r tân.”

3Roedd Jehoshwa'n sefyll o flaen yr angel, yn gwisgo dillad oedd yn hollol fochaidd. 4A dyma'r angel yn dweud wrth y rhai oedd o'i gwmpas, “Tynnwch y dillad ffiaidd yna oddi arno.” Yna dyma fe'n dweud wrth Jehoshwa, “Dw i wedi maddau dy bechodau di, a dw i'n mynd i dy arwisgo di mewn dillad hardd.”

5A dyma fi'n dweud, “Gad iddyn nhw roi twrban glân ar ei ben hefyd.” Felly dyma nhw'n rhoi twrban glân ar ei ben, a rhoi'r wisg amdano, tra roedd yr angel yn sefyll yno.

6Yna dyma angel yr Arglwydd yn siarsio Jehoshwa, a dweud wrtho, 7“Dyma mae'r Arglwydd holl-bwerus yn ei ddweud: ‘Os gwnei di fyw fel dw i eisiau a gwneud dy ddyletswyddau, ti fydd yn gofalu am y deml a'r iard o'i chwmpas. Byddi'n cael rhyddid i fynd a dod o'm blaen i fel yr angylion sy'n sefyll yma. 8Felly gwrando Jehoshwa, a'r offeiriaid sy'n gweithio gyda ti – dych chi i gyd yn arwydd fy mod i am anfon fy ngwas, y Blaguryn. 9Am y garreg yma dw i'n ei gosod o flaen Jehoshwa (un garreg gyda saith wyneb iddi) – dw i'n mynd i grafu arni eiriau'r Arglwydd holl-bwerus, sy'n dweud y bydda i'n symud pechod o'r tir mewn un diwrnod.’ 10Ac meddai'r Arglwydd holl-bwerus—‘Bryd hynny bydd pawb yn gwahodd ei gilydd i eistedd ac ymlacio dan ei winwydden a'i goeden ffigys. a’”

Copyright information for CYM